Tudalen 1: Taflen Wybodaeth i Gyfranogwyr (Fersiwn 1, 13/01/2021)

Teitl yr astudiaeth: Archwilio'r hyn sy’n rhwystro pobl o gymunedau gwledig rhag cymryd rhan mewn ymchwil

Hoffem eich gwahodd i gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil ynglŷn â safbwyntiau ymchwilwyr am y rhwystrau rhag cynnal gwaith ymchwil yn rhanbarthau gwledig Gogledd Cymru. Cyn ichi benderfynu cymryd rhan neu beidio, mae’n bwysig eich bod yn deall diben yr ymchwil a’r hyn y bydd yn ei olygu i chi. Cymerwch amser i ddarllen yr wybodaeth isod yn ofalus a thrafodwch hi ag eraill os dymunwch. Holwch ni os oes rhywbeth yn aneglur, neu os hoffech chi fwy o wybodaeth. Rydych chi'n rhydd i ddewis a hoffech chi gymryd rhan.

Beth yw diben yr astudiaeth?

Rhoddir sylw cynyddol i gynnwys grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn ymchwil sy'n gysylltiedig ag iechyd. Mae'r llenyddiaeth yn awgrymu bod cynrychiolaeth annigonol yn lleihau cyffredinolrwydd unrhyw ganfyddiadau i'r boblogaeth gyfan. Mae yna hefyd nifer o heriau o ran cynnal gwaith ymchwil mewn cymunedau gwledig. Mae rhai ymchwilwyr wedi dadlau y gall y ddemograffeg mewn cymunedau gwledig greu rhwystrau cynhenid sy'n atal cymryd rhan mewn ymchwil. Ymhlith y ffactorau a nodwyd mae: oedran, tlodi, iechyd gwaeth a mwy o chyd-gyflyrau, llai o addysg a gwasgariad daearyddol cymunedau gwledig. Yn yr un modd, mae ymchwilwyr eraill wedi dadlau bod gan gymunedau gwledig lai o wybodaeth am y broses ymchwil. Crybwyllwyd costau cymryd rhan, amser teithio, trefniadau gofal plant a materion trafnidiaeth hefyd, ynghyd â pharodrwydd staff clinigol mewn ardaloedd gwledig i gynnal ymchwil. Mae'n ymddangos bod ymddiriedaeth mewn ymchwilwyr a'r broses ymchwil hefyd yn bwysig. 

Ymddengys bod y ffactorau hyn yn bwysig ar gyfer cynnal ymchwil yn ehangach, a threialon clinigol yn fwy penodol. O ganlyniad, mae'n bwysig deall y rhwystrau rhag cymryd rhan mewn ymchwil, beth gellir ei wneud i oresgyn y rhwystrau lleol hynny a'r offer, yr hyfforddiant a'r adnoddau sydd eu hangen i roi'r camau hyn ar waith. 

Rydym yn bwriadu cynnal astudiaeth yn seiliedig ar holiadur a ddosbarthwyd i ymchwilwyr yng Ngogledd Cymru er mwyn cloriannu eu safbwyntiau am y rhwystrau rhag cynnal ymchwil a threialon clinigol yn y rhanbarth.

Pam y cefais i fy newis?

Fe'ch dewiswyd gan eich bod yn ymchwilydd yng Ngogledd Cymru a/neu'n cynnal gwaith ymchwil yng Ngogledd Cymru.

A oes rhaid i mi gymryd rhan?

Nac oes. Chi sy’n penderfynu a ydych am gymryd rhan yn yr astudiaeth ai peidio. Os penderfynwch gymryd rhan, cewch y daflen wybodaeth hon i’w chadw, a gofynnir ichi lofnodi ffurflen gydsynio. Os penderfynwch gymryd rhan, mae gennych hawl o hyd i dynnu’n ôl ar unrhyw adeg, a hynny heb roi rheswm.

Beth fydd yn digwydd i mi os byddaf yn cymryd rhan?

Cysylltir ag ymchwilwyr sy'n cymryd rhan trwy anfon e-bost atynt, a fydd yn cynnwys hyper-ddolen i'r holiadur a chopi o'r Daflen Wybodaeth i Gyfranogwyr.  

Ar ôl agor yr holiadur, bydd yr elfen gyntaf yn darparu gwybodaeth am yr astudiaeth. Copi o'r wybodaeth yn y Daflen Wybodaeth i Gyfranogwyr fydd hyn, fel bod darpar gyfranogwyr yn deall yn llawn ac yn cael eu hatgoffa o natur yr astudiaeth.  

Bydd ail ran yr holiadur yn gofyn i'r ymchwilwyr sy'n cymryd rhan gydsynio i’r prosiect. Bydd hyn yn pwysleisio:  

  • Bod cyfranogiad yn wirfoddol ac y rhagdybir y cydsyniad hwnnw drwy lenwi'r holiadur; ac 

  • Y cyflwynir y data'n ddienw fel na ellir eu hadnabod. 

O ystyried natur yr astudiaeth hon, bydd cyfranogwyr yn cydsynio trwy dicio blwch a dim ond ar ôl ticio'r blwch hwn y gallant gwblhau’r holiadur. 

Beth sy'n rhaid imi ei wneud?

Bydd trydedd ran yr holiadur yn casglu data demograffig:

  1. Swydd yr ymchwilydd: Athro, Uwch Ddarlithydd, Darlithydd, Swyddog Ymchwil
  2. Maes ymchwil: yn ôl dosbarthiad anhwylderau iechyd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd 
  3. Profiad o gynnal ymchwil mewn cymunedau gwledig: oes/nac oes 
  4. Profiad o gynnal unrhyw dreialon clinigol mewn cymunedau gwledig: oes/nac oes

Bydd pedwaredd ran yr holiadur yn cael ei strwythuro yn unol â'r themâu a'r is-themâu a ddarganfuwyd ar ôl chwilio drwy’r llenyddiaeth. Bydd naratif byr yn arwain at bob cwestiwn yn egluro'r hyn a ganfuasom o'r llenyddiaeth, cyn gofyn i'r cyfranogwr gofnodi ei brofiad ei hun o ran ymchwil yn ehangach a threialon clinigol yn fwy penodol.

Beth yw manteision cymryd rhan?

Bydd yr astudiaeth yn ein helpu i weld beth yw safbwyntiau ymchwilwyr am y rhwystrau y maent wedi'u hwynebu wrth gynnal ymchwil a threialon clinigol yng Ngogledd Cymru, a pha ffactorau y maent wedi'u canfod sydd wedi dylanwadu ar y nifer sy'n cymryd rhan mewn ymchwil ledled Gogledd Cymru.

Beth yw anfanteision a risgiau posib cymryd rhan?

Heblaw am yr ymrwymiad amser sydd i gymryd rhan yn yr astudiaeth, nid ydym yn rhagweld y bydd unrhyw beryglon.

Tynnu’n Ôl

Cewch dynnu'n ôl o'r astudiaeth ar unrhyw adeg heb i hynny effeithio ar eich hawliau cyfreithiol, ond gellir defnyddio'r data a gasglwyd hyd at yr adeg y byddwch yn tynnu'n ôl.

Os gwnaf gymryd rhan, fydd hynny'n cael ei gadw'n gyfrinachol?

Ni fydd y tîm ymchwil yn cofnodi unrhyw ddata a allai ddatgelu pwy ydych chi.

Beth os bydd problem yn codi?

Nid ydym yn rhagweld y codir materion sensitif wrth gasglu data, o ystyried natur cwestiynau strwythuredig yr holiadur.

Beth fydd yn digwydd i ganlyniadau’r astudiaeth ymchwil?

Cyhoeddir y canlyniadau mewn cyfnodolion gwyddonol a’u cyflwyno mewn cynadleddau.

Ni fydd yr adroddiadau a'r cyflwyniadau a ysgrifennwn yn cynnwys manylion personol y bobl sy'n cymryd rhan.

Pwy sy’n trefnu ac yn cyllido’r ymchwil?

Nid yw'r astudiaeth wedi'i hariannu. Caiff ei threfnu gan Sefydliad Hap-dreialon Iechyd Gogledd Cymru yn yr Uned Treialon Iechyd Clinigol (NWORTH CTU) sydd wedi ei lleoli ym Mhrifysgol Bangor.

Pwy adolygodd yr astudiaeth hon?

Adolygwyd yr astudiaeth gan Bwyllgor Moeseg Academaidd Gwyddorau Gofal Iechyd a Meddygol Prifysgol Bangor.

Gyda phwy y gallaf gysylltu i wybod mwy neu os oes gennyf bryderon?

Yr Athro Paul Brocklehurst, NWORTH, Prifysgol Bangor, Y Wern (Safle’r Normal), Ffordd Caergybi, Bangor, LL57 2PZ. Ffôn: 01248 383216 

Ebost: p.brocklehurst@bangor.ac.uk  

 

Diolch am eich diddordeb yn yr astudiaeth ac am roi o’ch amser i ddarllen y daflen wybodaeth.